Pembrokeshire Supported Employment

Newsletter

Autumn/Winter 2023

Welcome to the tenth edition of our newsletter - keeping people informed of all the latest developments across the variety of amazing projects we have running in Pembrokeshire.


Thank you to everyone who contributed!

(Aeran Hopewell, Editor)

Aeran.Hopewell@pembrokeshire.gov.uk


Achieve +


Written by Hayley Aspinall


Our new project Multiply is up and running for people aged 19+ who would like to improve their Money Management skills to enable them to have control of their spending. We help with budgeting, paying bills, understanding money, shopping economically and saving.


Some of the people we are currently working with will go on to complete a qualification, but this is not mandatory, therefore that decision is theirs. All of our sessions are tailored to that individual.


Pictured are some of our individual leaners using cash to work out the change from their shopping, and working out what they have coming in and what goes out of their account.


If you require any information about this new project Please do not hesitate to contact Hayley on 01437 763650 or 07824522471.


The Station Shop at Scolton Manor.

Written by Nigel Bevans, Training Manager

The Station Shop has had a busy summer and the staff are now catching their breath before a busy winter period. Our supported employment staff been keeping the shop well stocked with gifts made by our makers in Norman Industries and also the gifts that we stock by local arts & crafts people.


If you are a regular visitor to Scolton then you might benefit more by purchasing an annual pass which would entitle you to parking a Scolton Manor all year round for a single price of £35. If you are interested in this great offer then you can purchase your annual pass at the Station Shop.


If you are a Carer and have a Carers Card issued by Pembrokeshire Carers Information Service then you can get the annual pass for free alongside a regular hot drink with every visit! For more information on this and getting a Carers card email pciss@adferiad.org or telephone 01437 611002


Mark from the Station Shop is pictured with the season pass for Scolton Manor

We have crafts fayres coming up in November and December which are already bordering on being fully booked. All our fayres are free entry (car parking charges apply) and there is hot food and drink to be found and access to the whole of the Scolton site. For information on how to book at stall at these events then email us at fayrebookings@pembrokeshire.gov.uk

The Station Shop team are pictured at the entrance of the shop.

Catering


Written by Marty Andrews

Across the catering outlets this autumn half-term, we have been focusing on Halloween with deliciously scary dishes and drinks on offer.


The teams got into the ‘spirit’ by getting the dining areas and themselves suitable attired, and the customers were able to ‘sink their teeth’ into Vampires Delight, Creepy Cupcakes, Monster, and (for dainty appetite’s) little Monster Burgers, Slimy Soup with Crunchy Bones and much, much more.

Photo shows Callum in his Halloween costume

Pictured are some of the Halloween sweet treats.

Jack is pictured with some of our cupcakes at Cafe Cyfle.

Danni is pictured with our sweet treats at Edie’s Tea Room

A big thank you to the teams, who have now turned their attention to planning for Christmas. All Cafés will be offering festive menu items with Edie’s Tea Room at Scolton Manor offering one, two and three course options for a traditional Christmas Lunch, as well as Festive Afternoon Tea in December.

Sarah, a supported employee based and The Station Shop but also working at Caffi Cyfle no.5 one day per week, brought in one of her home baked cakes recently. We were hugely impressed, and Sarah is now, with the support of the team at Edie’s, spending an afternoon each week producing a bake to go on sale at the Station Shop. Sarah is pictured with her Plum and Almond Bakewell. Customers have declared the cakes a hit, with a number of regulars asking for ‘Sarah’s cake’ by name.

This is part of Repair Cafe Wales.
This is part of the Pembrokeshire Cicle, share, repair extend

Repair Café - Focus on our new fixer…

Written by Marty Andrews


The repair café continues to go from strength to strength and we have added experienced watch and clock repairer Arthur to our team of volunteer fixers. Arthur can be seen pictured with some extremely satisfied customers.


His repairs so far have included a number of wrist and pocket watches, wall and mantle clocks and wind up music boxes. Equally at home with vintage wind up or modern battery operated movements, we are delighted to welcome Arthur to our band of volunteer fixers.


Our Scolton Manor Repair Café’s take place in The Welcome Centre every second Thursday of the month from 1pm – 4pm. Our fixers include experts in textiles, electronics, tools, bikes, and mechanical.

Tackling In-Work Poverty Pembrokeshire project comes to an end


Written by Mary Howes

with quotes from Wavehill Evaluation report


Tackling In-Work Poverty Pembrokeshire has come to an end with the feedback below taken from the evaluation report for the project completed by Wavehill.


Appreciation of support


“I can't speak highly enough of what has been done to help me, without it I think I'd still be bedridden…It's helped me to move, to breathe”

(Participant)


The support I got in itself genuinely worked, my energy levels returned, my ability to actually function and think - the brain fog eased, and I could actually sit down and do something and it's absolutely unbelievable.”

(Participant)


They very much improved the barriers because I felt that I was accessing support that I wouldn't have been able to access independently because of the condition I was in so I had someone who was able to identify ways and means of helping me and accessing various means of support.”

(Participant)


Supportive staff & staff resource


The project has provided support to employers that wouldn’t have been available elsewhere. Knowledge and expertise have been generously shared. We are developing new support procedures and production procedures”

(Employer)


When that person returned to work I saw an improvement in their emotional resilience to ability to cope with the day to day challenges of being in a workplace, being able to cope with social interactions and stay focused.”

(Employer)



Facts and figures


During the project we have supported 174 participants. 79 people were on sickness absence with 54(68.35) of them returning to work. 95 participants wanted support to improve their labour market situation and 69(72.63%) achieved this either with additional hours or a permanent contract. 16 employers have had support with 10 adopting or improving equality and diversity strategies and monitoring systems.


A new chapter


As one door closes another door opens. We will continue to support people through the In Work Support Service run in partnership with RCS and funded through Welsh Government. We can provide personalised support and therapies to improve health and wellbeing at work for anyone who is employed or self-employed. You are eligible if you live in Wales, are struggling in work or are currently on sickness absence.



This project has been part funded by the European Social Fund through the Welsh Government.

Scolton Garden Maintenance Projects & Talog Coed Saw Mill

From Dai Brock, Site Manager

It’s a really exciting time at Talog Coed and the production factory with a brand new range of products now made and on sale for customers to order – from garden furniture such as benches and picnic tables to garden planters and pet feeders. So far, it’s been a huge hit for us and the project is developing fast.


The new range got a great reception when we promoted at the last Autumn Fayre and we have just had a special promotional day at County Hall where we received a fabulous response from those who came along to have a look. A big thank you to everyone who attended and took interest – it’s great to have your support and custom!


We are looking forward to starting our timber product sales at the Tufton Shop with the support of Scolton Park manager Mark Thomas and PSEP leader Karen Davies. This gives us an outlet specifically focused on our timber products which will give a boost to our sales.



Marketing is an important part of growing our Talog Coed enterprise and generating more income. This has been developing well thanks to the hard work of Chloe Davies and Aeran Hopewell - working with a manager very stressed at times trying to hit those deadlines! As part of this new development, we are working towards setting up our own account on the Etsy online marketplace. This will be up and running in the coming months, and will help boost our sales by expanding our reach to a wider customer base.


Talog Coed is now producing plank timber in good quantities which is in turn providing a sustainable source for timber for our factory production, now going into the new product range.


This is now starting to get the different projects working together to produce the best results for each other and our customers - with Talog Coed feeding raw materials to the factory and then the marketing team working with the products coming from the factory to get them to customers. The work each project does is essential to the process and each project is encouraged to do its best work. It goes without saying that huge thanks must be given to the Talog Coed team for working as hard as they have – and also to the production team – a special thanks to Derek Jenkins, Paul Hughes, Ashley Stone and Dai Sture.

The production project is now coming to a point where we can take on more trainees so we are working closely with the employment and training team to find new participants who would gain from these opportunities and learn new skills in production. Once we have fully developed the new production process, we can welcome trainees to get it up and running!


The Scolton Gardening crew have been up against the weather in recent weeks but pushed hard to get the work done. With our Gardening project, we have the ongoing PCC grass cutting contract which is now growing and developing well, providing further opportunities for training and employment. However, this work has not been easy with the recent dismal weather.


In the last few months, we have been offering more training opportunities. We have had 6 more joining the group as trainees – a few of those have started at Talog Coed and one has moved into paid employment with us at Norman Industries through the Paid Work Opportunity scheme.


Once again, I would like to thank everyone who has participated in our projects for their amazing efforts and, going ahead, I’m sure we will keep up the fantastic work!


Training & Craft Workshops

from Lee Adams, Training Manager

The backroom project is continuing to run very well and the trainees and staff have made an impressive number of items – items that could really do with forever homes. The backroom and the laser engraving area have been working together to come up with ways of getting these lovely items to their new homes.


One solution has been setting up the Training Room Shop as we introduced in the last update. The team have also attended the craft fayre that takes place at Scolton Manor and will be continue set up at the upcoming fayres on 25th and 26th November and the 16th and 17th December. Also, in a further development, the team is working really hard to get our online Etsy Shop up and running - so keep an eye out for this!!

Max is pictured working hard on one our products.

The cute item pictured above was made by staff member Amanda Harvey

The Laser Machine is still hugely popular and so versatile that it’s a key part in pulling our projects together. It can turn all types of reclaimed timber in to sellable products that would otherwise been thrown away.


We have been working a lot closer with our production department to personalise some of the beautiful products they have been making as part of the new range of timber-based products. These are on sale now!

Pictured are a few examples:


Here are pictured a few more examples

of our work:








Old chipboard pub tables destined for the tip, rescued from a hotel in Tenby and the Harry Potter school crests engraved to them. They look pretty good as well!!

Four engravings of each school house crest from the Harry Potter books.

Craft Workshop


The craft workshop is as busy as ever with Hannah and Gethin still continuing to produce items for custom orders. Here is a sample of Hannah’s designs…

Two cakes display stands with three rounded glass shelfs decorated with blue butterflies and different coloured flowers. Also, a glass dome cake cover decorated with drawings of cup cakes.
A large glass jug decorated with many butterfly designs.

The craft team is continuing to work well with Portfield School and the pupils seem to be enjoying their sessions on a Monday morning, which is always good fun. The team is making a strong effort to keep up with demand for products as the season’s change, with the help from all who attend Sue’s sessions.

Maths and English classes


One of the many benefits of coming to Norman Industries is from our partnership with Learning Pembrokeshire who offer on-site Maths and English lessons with our groups on a Wednesday afternoon. Many of the individuals in the group have received certificates for their achievements in Numeracy and Literacy. All of us at Norman Industries are proud of all of their hard work and effort.


Participants from the Maths and English classes pose with head tutor outside the hub.

Cyflogaeth dan Gymorth yn Sir Benfro

Cylchlythyr

Hydref/Gaeaf 2023

Croeso i'n degfed cylchlythyr, a fydd yn sicrhau eich bod yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ar draws y prosiectau gwych niferus sy'n digwydd yn Sir Benfro.


Diolch i bawb am eu cyfraniadau!

(Aeran Hopewell, Golygydd)

Aeran.Hopewell@pembrokeshire.gov.uk


Cyflawni+


Ysgrifennwyd gan Hayley Aspinall


Mae ein prosiect newydd, Lluosi, ar waith ar gyfer pobl 19 oed ac yn hŷn a hoffai wella eu sgiliau rheoli arian er mwyn eu galluogi i reoli eu gwariant. Rydym yn helpu gyda chyllidebu, talu biliau, deall arian, siopa'n economaidd a chynilo.


Bydd rhai o’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw ar hyn o bryd yn mynd ymlaen i gwblhau cymhwyster, ond nid yw hyn yn orfodol, felly eu penderfyniad nhw yw’r penderfyniad hwnnw. Mae pob un o'n sesiynau wedi'u teilwra i'r unigolyn hwnnw.


Dyma rai o'n dysgwyr unigol yn defnyddio arian parod i weithio allan y newid o'u siopa, a gweithio allan beth sydd ganddynt yn dod i mewn a beth sy'n mynd allan o'u cyfrif..


Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am y prosiect newydd hwn mae croeso i chi gysylltu â Hayley drwy ffonio 01437 763650 neu 07824522471.


Ysgrifennwyd gan Nigel Bevans, Rheolwr Hyfforddiant


Cafodd Siop yr Orsaf haf prysur ac mae’r staff wedi bod yn dal eu gwynt cyn cyfnod prysur y gaeaf. Mae ein staff cyflogaeth dan gymorth wedi bod yn cadw'r siop yn llawn o anrhegion a wnaed gan ein gwneuthurwyr yn Norman Industries a hefyd yr anrhegion rydym yn eu stocio gan bobl celf a chrefft leol.


IOs ydych chi'n ymweld yn rheolaidd â Scolton yna efallai y byddwch chi'n elwa mwy ar brynu tocyn blynyddol a fyddai'n rhoi'r hawl i chi barcio ym Maenordy Scolton drwy gydol y flwyddyn am un tâl o £35.Os oes gennych ddiddordeb yn y cynnig gwych hwn yna gallwch brynu eich tocyn blynyddol yn Siop yr Orsaf.


Os ydych yn ofalwr a bod gennych Gerdyn Gofalwr a roddwyd gan Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Sir Benfro, gallwch gael y tocyn blynyddol am ddim ynghyd â diod poeth bob tro y byddwch yn ymweld! I gael rhagor o wybodaeth am hyn a chael cerdyn Gofalwr e-bostiwch pciss@adferiad.org neu ffoniwch 01437 611002


Yn y llun mae Mark o Siop yr Orsaf gyda'r tocyn tymor ar gyfer Maenordy Scolton


Mae gennym ffeiriau crefftau ar y gweill ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr sydd eisoes bron yn llawn. Mae mynediad am ddim i’n holl ffeiriau (codir tâl am barcio ceir) ac mae bwyd a diod poeth ar gael a gallwch gael mynediad i safle Scolton i gyd.I gael gwybodaeth am sut i archebu stondin yn y digwyddiadau hyn, anfonwch e-bost atom yn fayrebookings@pembrokeshire.gov.uk.

Mae'r llun yn dangos tîm Siop yr Orsaf wrth fynedfa'r siop.

Ar draws y mannau arlwyo dros hanner tymor yr hydref eleni, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar Galan Gaeaf gyda seigiau a diodydd brawychus blasus ar gael.


Aeth y timau i'r hwyl trwy addurno’r ardaloedd bwyta a gwisgo’n addas eu hunain, a llwyddodd y cwsmeriaid i 'gladdu eu dannedd' i Fwyd Fampirod, Cacennau Bach Calan Gaeaf, Angenfilod, ac (ar gyfer archwaeth blasus) Byrgyrs Bwystfilod bach, Cawl Llysnafedd gydag Esgyrn Crensiog a llawer, llawer mwy.

Arlwyo


Ysgrifennwyd gan

Marty Andrews

Mae'r llun yn dangos Callum yn ei wisg Calan Gaeaf.

Mae lluniau yn dangos rhai o ddanteithion melys Calan Gaeaf.

Yn y llun mae Jac gyda rhai o'n cacennau bach yng Nghaffi Cyfle.


Yn y llun mae Danni gyda’n danteithion melys yn Ystafell De Edie.

Diolch yn fawr iawn i’r timau, sydd bellach wedi troi eu sylw at gynllunio ar gyfer y Nadolig. Bydd pob caffi yn cynnig eitemau bwydlen Nadoligaidd a bydd Ystafell De Edie ym Maenordy Scolton yn cynnig Cinio Nadolig traddodiadol un, dau neu dri chwrs, yn ogystal â The Prynhawn Nadoligaidd ym mis Rhagfyr.

Daeth Sarah, gweithiwr dan gymorth yn Siop yr Orsaf ond sydd hefyd yn gweithio yng Nghaffi Cyfle rhif 5 un diwrnod yr wythnos, ag un o'i chacennau cartref i’r gwaith yn ddiweddar. Gwnaeth ei chacennau argraff fawr iawn ac mae Sarah nawr, gyda chefnogaeth tîm Edie's, yn treulio prynhawn bob wythnos yn pobi cacennau i’w gwerthu yn Siop yr Orsaf. Yn y llun mae Sarah gyda'i theisen Bakewell eirin a chnau almon. Mae cwsmeriaid wedi datgan bod y cacennau yn llwyddiant ysgubol, gyda nifer o fynychwyr rheolaidd yn gofyn am gacennau Sarah yn benodol.

Caffi Atgyweirio - Canolbwyntio ar Atgyweiriwr…

Ysgrifennwyd gan Marty Andrews


Mae’r caffi atgyweirio yn parhau i fynd o nerth i nerth ac rydym wedi ychwanegu Arthur, sy’n atgyweiriwr oriorau a chlociau profiadol, at ein tîm o atgyweiriwyr gwirfoddol. Gellir gweld Arthur yn y llun gyda chwsmeriaid hynod fodlon.


Mae ei atgyweiriadau hyd yn hyn wedi cynnwys nifer o oriorau arddwrn a phoced, clociau wal a mantell a blychau cerddoriaeth weindio. A fyntai’r un mor gartrefol gyda hen symudiadau weindio neu symudiadau modern sy’n rhedeg ar fatri, rydym yn falch iawn o groesawu Arthur i'n criw o atgyweiriwyr gwirfoddol.


Cynhelir Caffis Atgyweirio Maenordy Scolton yn y Ganolfan Groeso bob yn ail ddydd Iau o'r mis, rhwng 1pm a 4pm. Mae ein atgyweiriwyr yn cynnwys arbenigwyr mewn tecstilau, dyfeisiau electronig, tŵls, beiciau, ac offer mecanyddol.

Prosiect Trechu Tlodi Mewn Gwaith Sir Benfro

yn dod i ben


Ysgrifennwyd gan Mary Howes gyda

dyfyniadau o adroddiad gwerthuso Wavehill


Mae Trechu Tlodi Mewn Gwaith Sir Benfro wedi dod i ben. Dyma adborth a gymerwyd o'r adroddiad gwerthuso ar gyfer y prosiect a gwblhawyd gan Wavehill.


Gwerthfawrogiad o gefnogaeth


“Alla i ddim canmol yr hyn sydd wedi’i wneud i fy helpu i ddigon, hebddo rwy’n meddwl y byddwn i’n dal i fod yn gaeth i’r gwely…mae wedi fy helpu i symud, i anadlu”

(Cyfranogwr)


“Fe weithiodd y gefnogaeth a gefais yn wirioneddol, dychwelodd fy lefelau egni, fy ngallu i weithredu a meddwl - gostyngodd niwl yr

ymennydd, a gallwn eistedd a gwneud rhywbeth ac mae'n gwbl anghredadwy.”

(Cyfranogwr)


“Fe wnaethon nhw oresgyn cryn dipyn o’r rhwystrau oherwydd roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael mynediad at gymorth na fyddwn i wedi gallu cael gafael arno’n annibynnol oherwydd y cyflwr roeddwn i ynddo, felly roedd gen i rywun a oedd yn gallu nodi ffyrdd o fy helpu a chael mynediad at wahanol fathau o gymorth.

(Cyfranogwr)


Staff cefnogol ac adnoddau staff


“Mae'r prosiect wedi rhoi cymorth i gyflogwyr na fyddai wedi bod ar gael yn unman arall. Mae gwybodaeth ac arbenigedd wedi'u rhannu'n hael.

Rydym yn datblygu gweithdrefnau cymorth a gweithdrefnau cynhyrchu newydd

(Cyflogwr)


“Pan ddychwelodd y person hwnnw i’r gwaith gwelais welliant yn ei wytnwch emosiynol a’i allu i ymdopi â’r heriau o ddydd i ddydd o fod mewn gweithle, yn gallu ymdopi â rhyngweithio cymdeithasol a pharhau i ganolbwyntio.

(Cyflogwr)



Ffeithiau a ffigurau


Yn ystod y prosiect rydym wedi cefnogi 174 o gyfranogwyr. Roedd 79 o bobl ar absenoldeb salwch a dychwelodd 54 (68.35) ohonynt i'r gwaith. Roedd 95 o gyfranogwyr eisiau cymorth i wella eu sefyllfa yn y farchnad lafur a chyflawnodd 69 (72.63%) ohonynt hyn naill ai drwy gael oriau ychwanegol neu gontract parhaol. Mae 16 o gyflogwyr wedi cael cymorth ac mae 10 yn mabwysiadu neu'n gwella strategaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth a systemau monitro.


Pennod newydd


Wrth i un drws gau mae drws arall yn agor. Byddwn yn parhau i gefnogi pobl drwy’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â RCS ac a ariennir drwy Lywodraeth Cymru. Gallwn ddarparu cymorth personol a therapïau i wella iechyd a llesiant yn y gwaith i unrhyw un sy'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Rydych yn gymwys os ydych yn byw yng Nghymru, yn cael trafferth gweithio neu ar absenoldeb salwch ar hyn o bryd.



Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Prosiectau Cynnal a Chadw Gardd Scolton a Melin Lifio Talog Coed

Oddi wrth

Dai Brock, Rheolwr Safle

Mae'n gyfnod cyffrous iawn yn Nhalog Coed a'r ffatri gynhyrchu gan fod amrywiaeth newydd sbon o gynnyrch bellach wedi'u gwneud ac ar werth i gwsmeriaid eu harchebu – o ddodrefn gardd fel meinciau a byrddau picnic i botiau planhigion ar gyfer yr ardd a bwydwyr anifeiliaid anwes. Hyd yn hyn, mae wedi bod yn llwyddiant enfawr i ni ac mae'r prosiect yn datblygu'n gyflym.


Cafodd yr ystod cynnyrch newydd dderbyniad gwych pan gafodd ei hyrwyddo yn Ffair diwethaf yr Hydref ac rydym newydd gynnal diwrnod hyrwyddo arbennig yn Neuadd y Sir lle cawsom ymateb gwych gan y bobl a ddaeth draw i gael golwg. Diolch o galon i bawb a ddaeth draw – am eich cefnogaeth a’ch busnes!


Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau gwerthu ein cynnyrch pren yn Siop Tufton gyda chefnogaeth rheolwr Scolton, Mark Thomas, ac arweinydd PSEP, Karen Davies. Mae hyn yn rhoi safle gwerthu i ni sy'n canolbwyntio'n benodol ar ein cynnyrch pren a fydd yn helpu i hybu ein gwerthiant.


Mae marchnata yn rhan bwysig o dyfu ein menter Talog Coed a chynhyrchu mwy o incwm. Mae hyn wedi bod yn datblygu'n dda diolch i



waith caled Chloe Davies ac Aeran Hopewell - gweithio gyda rheolwr dan straen mawr ar adegau yn ceisio cwblhau gwaith o fewn y terfynau amser hynny! Fel rhan o’r datblygiad newydd hwn, rydym yn gweithio tuag at sefydlu ein cyfrif ein hunain ar farchnad ar-lein Etsy. Bydd hwn ar waith yn ystod y misoedd nesaf, a bydd yn helpu i hybu ein gwerthiant drwy ehangu ein cyrhaeddiad i sylfaen cwsmeriaid ehangach.



Mae Talog Coed bellach yn cynhyrchu cryn dipyn o bren planc sydd yn ei dro yn darparu ffynhonnell gynaliadwy o bren ar gyfer cynhyrchu yn ein ffatri, sydd bellach yn mynd i mewn i'r ystod cynnyrch newydd.



Mae hyn bellach yn golygu bod y gwahanol brosiectau yn dechrau gweithio gyda'i gilydd i gynhyrchu'r canlyniadau gorau i'w gilydd a'n cwsmeriaid. Mae Talog Coed yn bwydo deunyddiau crai i’r ffatri ac yna mae’r tîm marchnata yn gweithio gyda’r cynnyrch sy’n dod o’r ffatri i gwsmeriaid eu cael. Mae'r gwaith y mae pob prosiect yn ei wneud yn hanfodol i'r broses ac mae pob prosiect yn cael ei annog i wneud ei waith gorau. Afraid dweud ein bod am ddiolch yn fawr iawn i dîm Talog Coed am weithio mor galed – a hefyd i’r tîm cynhyrchu – a diolch arbennig i Derek Jenkins, Paul Hughes, Ashley Stone a Dai Sture.

Mae'r prosiect cynhyrchu nawr yn dod i bwynt lle gallwn gyflogi mwy o hyfforddeion felly rydym yn gweithio'n agos gyda'r tîm cyflogaeth a hyfforddiant i ddod o hyd i gyfranogwyr newydd a fyddai'n elwa o'r cyfleoedd hyn ac yn dysgu sgiliau cynhyrchu newydd. Unwaith y byddwn wedi datblygu'r broses gynhyrchu newydd yn llawn, gallwn groesawu hyfforddeion i'w rhoi ar waith!


Mae criw garddio Scolton wedi bod yn brwydro yn erbyn y tywydd yn ystod yr wythnosau diwethaf ond maen nhw wedi gwthio'n galed i gyflawni’r gwaith. Gyda’n prosiect garddio, mae contract torri gwair parhaus CSP gennym sydd bellach yn ehangu ac yn datblygu’n dda, gan ddarparu cyfleoedd pellach ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth. Serch hynny, ni fu'r gwaith hwn yn hawdd gyda'r tywydd garw diweddar.


Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn cynnig mwy o gyfleoedd hyfforddi. Rydym wedi cael 6 arall yn ymuno â’r grŵp fel hyfforddeion – mae rhai o’r rheini wedi dechrau yn Talog Coed ac mae un wedi symud i waith cyflogedig gyda ni yn Norman Industries trwy’r cynllun Cyfleoedd Gwaith â Thâl.


Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein prosiectau am eu hymdrechion anhygoel ac rwy'n siŵr y byddwn yn parhau â'r gwaith gwych yn y dyfodol!



Hyfforddiant a Gweithdai Crefft

Oddi wrth

Lee Adams, Rheolwr Hyfforddiant

Mae'r prosiect ystafell gefn yn parhau i redeg yn dda iawn, mor dda mewn gwirionedd mae'r hyfforddeion a'r staff wedi gwneud nifer fawr iawn o eitemau - eitemau sydd wir angen cartrefi am byth. Mae'r ystafell gefn a'r ardal ysgythru â laser wedi bod yn cydweithio i ddod o hyd i ffyrdd o gael yr eitemau hyfryd hyn i'w cartrefi newydd.


Un ateb fu sefydlu Siop yr Ystafell Hyfforddi. Mae'r tîm hefyd wedi bod yn ffair grefftau Maenordy Scolton a'r rhai nesaf fydd 25 a 26 Tachwedd ac 16 ac 17 Rhagfyr. Hefyd, mewn datblygiad pellach, mae'r tîm yn gweithio'n galed iawn i roi ein Siop Etsy ar-lein ar waith – felly cadwch lygad am hyn!!

Dyma Max – mae'n gweithio'n galed ar un o'n cynhyrchion

Gwnaed gan aelod o staff Amanda Harvey

Mae'r peiriant laser yn dal i fod yn hynod boblogaidd ac mor amlbwrpas fel ei fod yn rhan allweddol o dynnu ein prosiectau at ei gilydd, a gall droi pob math o bren wedi'i adennill yn gynnyrch gwerthadwy a fyddai fel arall yn cael ei daflu..


Rydym wedi bod yn gweithio’n agosach o lawer gyda’n hadran gynhyrchu i bersonoli rhai o’r amrywiaeth newydd o gynhyrchion pren hardd y maent wedi bod yn eu creu. Mae’r rhain ar werth nawr!

Dyma ychydig mwy o enghreifftiau


Dyma ychydig mwy o enghreifftiau yn y

llun o'n gwaith:








Hen fyrddau bwrdd sglodion o dafarn ar gyfer y domen, wedi'u hachub o westy yn Ninbych-y-pysgod a'r pedwar llys o lyfrau Harry Potter wedi'u hysgythru arnynt. Maen nhw'n edrych yn reit dda hefyd!!

Four engravings of each school house crest from the Harry Potter books.

Gweithdy Crefft


Mae’r gweithdy crefftau mor brysur ag erioed gyda Hannah a Gethin yn parhau i gynhyrchu eitemau o hyd ar gyfer archebion a wneir at chwarth y cwsmer. Dyma sampl o ddyluniadau diweddar Hannah…

Two cakes display stands with three rounded glass shelfs decorated with blue butterflies and different coloured flowers. Also, a glass dome cake cover decorated with drawings of cup cakes.
A large glass jug decorated with many butterfly designs.

Mae'r tîm crefft yn parhau i weithio'n dda gydag Ysgol Portfield ac mae'r disgyblion i'w gweld yn mwynhau eu sesiynau ar fore Llun, sydd bob amser yn llawer o hwyl. Mae’r tîm yn gwneud ymdrech gref i gadw i fyny â’r galw am gynhyrchion wrth i’r tymhorau newid, gyda chymorth pawb sy’n mynychu sesiynau Sue.

Dosbarthiadau Mathemateg a Saesneg


Un o’r manteision niferus sy’n dod i Ddiwydiannau Norman yw ein partneriaeth gyda Sir Benfro yn Dysgu, sy'n cynnig gwersi mathemateg a Saesneg ar y safle gyda'n grwpiau ar brynhawn dydd Mercher. Mae llawer o’r unigolion yn y grŵp wedi derbyn tystysgrifau am eu cyflawniadau mewn rhifedd a llythrennedd. Mae pob un ohonom yn Niwydiannau Norman yn falch o'u hymdrech a'u holl waith caled.

Participants from the Maths and English classes pose with head tutor outside the hub.